Ymateb Ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i Adroddiad
Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Ardrethi Busnes yng Nghymru

 

9 Ionawr 2017

 

 

Rwy'n croesawu adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.

 

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cymryd camau i wella system gyllid llywodraeth leol, gan gynnwys y drefn drethu leol.  Mae cyfleoedd i sicrhau bod yr atebolrwydd am dalu trethi lleol yn decach i fusnesau, i bobl eraill sy'n talu ardrethi ac i aelwydydd.  Mae camau y gellid eu cymryd hefyd i symleiddio system ariannu llywodraeth leol er mwyn i bobl allu deall sut ac ymhle y bydd penderfyniadau am ariannu a darparu gwasanaethau lleol yn cael eu gwneud ac er mwyn iddynt ymgysylltu â'r penderfyniadau hynny. 

 

Mae'r adborth a roddir yn yr adroddiad hwn, yn ogystal ag adborth y gymuned fusnes ehangach a rhanddeiliaid eraill yn ychwanegu at y dystiolaeth a fydd yn sail i’r broses o ddatblygu'r polisi hwn.

 

Nodir isod fy ymatebion manwl i argymhellion yr adroddiad.

 

Argymhelliad 1

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i wneud ardrethi busnes yn fwy tryloyw a chyson.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae'r system ardrethi annomestig ar ei ffurf bresennol wedi bod ar waith er 1990 ac, felly, mae gan bobl sy'n eu talu a rhanddeiliaid allweddol eraill ddealltwriaeth dda o lawer o agweddau ar y system.  Er hynny, mae rhai agweddau o’r system yn gymhleth yn eu hanfod.

 

Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am asesu a phennu gwerthoedd eiddo unigol.  Rydym yn cydnabod y bydd pobl sy'n talu ardrethi, neu eu hasiantau, ar brydiau, yn gofyn am ragor o wybodaeth er mwyn deall eu gwerth ardrethol a sut mae hwnnw wedi'i bennu. Serch hynny, a hithau'n un o asiantaethau gweithredol Cyllid a Thollau EM, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gorfod cydymffurfio â Deddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 sy'n gwahardd datgelu gwybodaeth benodol am drethdalwyr.  Hefyd, mae rhywfaint o'r data prisio'n fasnachol sensitif ac felly nid oes modd eu cyhoeddi.  Er gwaethaf y cyfyngiadau hyn, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn gweithio i hwyluso darparu rhagor o wybodaeth am eu prisiadau ar gyfer pobl sy'n talu ardrethi a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio i alluogi hyn.  Mae'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yn Neddf Menter 2016 i hwyluso rhannu rhagor o wybodaeth rhwng Asiantaeth y Swyddfa Brisio ac awdurdodau lleol yn enghraifft amlwg o hyn.

 

O ran darparu rhyddhad dros dro, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod sylwadau'r Pwyllgor y gall cynlluniau o'r fath ychwanegu at gymhlethdod y system ardrethi.  O 2018 ymlaen, bydd y cynllun rhyddhad ardrethi dros dro i fusnesau bach sydd wedi'i ymestyn i 2017-18 yn cael ei ddisodli gan gynllun newydd parhaol a fydd yn rhan o'r system ardrethi annomestig newydd. 

 

Goblygiadau Ariannol

 

Bydd unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â darparu data gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio'n cael eu pennu fel rhan o'r trafodaethau ariannu blynyddol rhwng yr Asiantaeth a Llywodraeth Cymru. 

 

Bydd costau darparu cynllun parhaol gan yr Asiantaeth yn cael eu hystyried wrth lunio'r cynigion pan ddatblygir y cynllun newydd.

 

Argymhelliad 2

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi eglurder ynghylch cyfeiriad at y dyfodol.

 

Ymateb: Derbyn

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir mai cefnogi busnesau bach yw'r flaenoriaeth bennaf ar hyn o bryd ar gyfer y system ardrethi annomestig.  Mae hyn yn cael ei wneud drwy ymestyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach hyd 2017-18 a thrwy ymrwymo i ddatblygu cynllun parhaol newydd o 2018 ymlaen, yn ogystal â darparu rhyddhad ardrethi dros dro i helpu i liniaru effaith yr ymarfer ailbrisio. 

 

Yn y tymor canolig, bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar wella'r trefniadau gweinyddol er mwyn ysgafnhau'r baich ar bobl sy'n talu ardrethi.  Bydd hyn yn cynnwys camau i fynd i'r afael â chamddefnyddio'r system, gwella'r drefn rhannu data a diwygio'r broses apelio. 

 

Yn y tymor hwy, bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddiwygiadau ehangach a mwy hirdymor i system gyllid llywodraeth leol, gan edrych ar yr enghreifftiau gorau sydd ar waith yn rhyngwladol.  Bydd y gwaith hwn yn canolbwyntio ar ystyried mewn ffordd gymhwysol ac ymarferol y syniadau sy'n cael eu trafod mewn llenyddiaeth academaidd er mwyn penderfynu beth fyddai’r budd i wasanaeth cyhoeddus Cymru a'r economi ehangach.  Serch hynny, mae'n bwysig sylweddoli y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol er mwyn cyflwyno llawer o’r newidiadau.  Felly, nod Llywodraeth Cymru yw bod mewn sefyllfa erbyn diwedd y tymor hwn yn y Cynulliad lle bydd yr ystod o bosibiliadau, gan gynnwys ffurfiau eraill ar drethu, wedi cael eu hasesu, er mwyn gallu cynnig nifer o opsiynau y gellid ymgynghori yn eu cylch yn fuan yn y Chweched Cynulliad.  Mae gweithgor o arbenigwyr allanol wedi cael ei sefydlu i gynnig cyngor ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal trafodaethau agored am y gwaith hwn.

 

Goblygiadau Ariannol

 

Mae'r goblygiadau ariannol yn benodol berthnasol i'r camau polisi unigol.  Gellir gwireddu blaenoriaethau'r tymor byr a gwneud y gwaith ymchwil i gyd o fewn y cyllidebau presennol. 

 

Bydd y goblygiadau ariannol cysylltiedig yn ystyriaeth allweddol yn y cynigion tymor hwy ar gyfer diwygio, gan gynnwys systemau trethu gwahanol posibl.

 

Argymhelliad 3

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru lenwi'r bwlch data o ran busnesau sy'n elwa ar y cynlluniau rhyddhad mawr a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy gasglu'r wybodaeth hon yn ganolog a chyhoeddi'r data cychwynnol.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn casglu ac yn cyhoeddi ystod eang o ddata mewn perthynas â'r ardrethi annomestig a gesglir yng Nghymru.  Mae hyn yn cynnwys faint o gymorth a roddir i bobl sy'n talu ardrethi o dan bob un o'r cynlluniau rhyddhad a bennir mewn deddfwriaeth, a'r data hynny wedi'u dosbarthu ar lefel awdurdodau lleol.  Cyhoeddwyd data'n ddiweddar hefyd ynglŷn â'r cynlluniau rhyddhad dros dro a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru rhwng 2012-13 a 2015-16.  Mae'r rhain ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:

 

http://gov.wales/docs/det/publications/161229-business-rates-relief-scheme-data-cy.pdf

 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i ddichonoldeb, goblygiadau gweinyddol, a manteision casglu a chyhoeddi data ychwanegol am ryddhad ardrethi annomestig, fel rhan o'r datganiadau blynyddol a gyflwynir gan awdurdodau lleol. Bydd yn bwysig bod yn glir ynghylch beth yw budd ychwanegu at ddata sydd ar gael yn barod, a bydd raid bod yn hyderus bod y budd hwnnw yn werth mwy na’r gost o gael gafael ar y data a’i gyhoeddi.

 

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd yn cyhoeddi ystod o adroddiadau ystadegol ynglŷn â'r rhestr ardrethi annomestig.  Mae hyn yn cynnwys yr 'adroddiad stoc eiddo' rheolaidd, sy'n cynnwys nifer yr eiddo drwy Gymru a Lloegr, ac mae’n cynnig dadansoddiad o ddosbarthiad yr eiddo ar draws ystodau o werthoedd ardrethol a sectorau'r farchnad.  Fel y nodir uchod, mae cyfyngiadau statudol ar gyhoeddi rhai mathau o ddata sy'n ymwneud â threthiant.

 

Goblygiadau Ariannol

 

Nes bod y gwaith ar ddichonoldeb wedi'i wneud, nid oes modd asesu goblygiadau ariannol casglu data ychwanegol am Ardrethi Annomestig fel rhan o ddatganiadau blynyddol awdurdodau lleol.  Gallai olygu costau datblygu gweinyddol a/neu ddatblygu meddalwedd.

 

Argymhelliad 4

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio'r broses apeliadau yng Nghymru er mwyn iddi fod yn gynt ac yn decach;

 

Ymateb: Derbyn

 

Er bod mecanwaith i herio a gwneud iawn yn rhan hanfodol o unrhyw system drethu, o dan y broses apelio bresennol ynglŷn ag ardrethi annomestig, nid yw dros ddwy ran o dair o’r heriau yng Nghymru yn arwain at newid gwerth ardrethol eiddo.  At hynny, dim ond 15% o'r holl apeliadau a restrir gan Dribiwnlys Prisio Cymru sydd mewn gwirionedd yn cael eu setlo gan y Tribiwnlys. 

 

Nid yw hyn yn ffordd effeithiol o ddefnyddio adnoddau cyhoeddus prin ac mae'r straen y mae'n ei roi ar y system yn golygu y gall pobl sy'n talu ardrethi, ar gyfartaledd, fod yn ymwneud â'r broses am fwy na blwyddyn cyn i’w hachos gael ei ddatrys.  Mae hyn yn creu ansicrwydd ariannol i fusnesau ac awdurdodau lleol.  Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno cynigion i ddiwygio'r system apeliadau lle bo modd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. 

 

Gan mai apeliadau ynglŷn ag ardrethi annomestig yw tri chwarter llwyth gwaith Tribiwnlys Prisio Cymru, bydd angen newidiadau rheoleiddiol er mwyn rhoi'r pwerau a'r hyblygrwydd annibynnol i'r Tribiwnlys allu addasu i newidiadau mwy sylfaenol i'r broses apeliadau ehangach a'r effaith ar ei lwyth gwaith yn sgil hynny.  Felly, y cam cyntaf wrth ddiwygio'r broses apelio yn erbyn ardrethi annomestig fydd cyhoeddi ymgynghoriad ynglŷn â gweithredu a llywodraethu'r Tribiwnlys. 

 

O ran newidiadau mwy sylfaenol i'r broses apeliadau ehangach, yn benodol rolau a chyfrifoldebau pobl sy'n talu ardrethi (a'u hasiantau) ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio, mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o ddiwygiadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r system apeliadau yn Lloegr ac mae wedi cymryd pwerau yn Neddf Menter 2015 er mwyn gallu rhoi diwygiadau tebyg ar waith yng Nghymru.  Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymwybodol o bryderon sydd wedi codi o'r cynigion yn Lloegr, yn benodol felly'r feirniadaeth bod y newidiadau'n gwyro'r system ormod o blaid y Llywodraeth yn hytrach nag o blaid y sawl sy'n talu ardrethi.  Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal asesiad mor gyflawn ag y bo modd o'r newidiadau posibl, ac, er y caiff ymgynghoriad am y diwygiadau i'r system apeliadau ei gyhoeddi yn y Gwanwyn, nid yw’n fwriad rhoi newidiadau ar waith tan y flwyddyn ariannol 2018. 

 

Goblygiadau Ariannol

 

Bydd unrhyw gostau cysylltiedig yn dod o gyllidebau'r rhaglenni presennol ac fe'u hystyrir yn rhan o'r trafodaethau ariannu blynyddol rhwng Llywodraeth Cymru, Tribiwnlys Prisio Cymru ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

 

Argymhelliad 5

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru symud ailbrisiadau i gylch tair blynedd.

 

Ymateb: Derbyn mewn egwyddor

 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol bod rhai rhanddeiliaid yn awyddus i weld yr ailbrisiadau’n cael eu cynnal yn amlach, yn enwedig ar ôl ymarfer ailbrisio 2017, lle mae'r amrywiadau mewn gwerthoedd ardrethol mewn rhai ardaloedd wedi bod yn amlycach i bob golwg, oherwydd bod cyfnod hir wedi mynd heibio ers yr ymarfer ailbrisio blaenorol yn 2010. 

 

Ar y llaw arall, mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi dweud y gallai ailbrisio'n amlach arwain at fwy o ansefydlogrwydd ym miliau'r bobl sy'n talu ardrethi oherwydd y gallai'r ailbrisiadau gyd-daro â gwahanol bwyntiau yng nghylch y farchnad eiddo.

 

Mae'n amlwg hefyd, oherwydd nifer y problemau ymarferol a gweinyddol y byddai angen mynd i'r afael â hwy, y byddai prisiadau amlach yn golygu llawer mwy na dim ond cwtogi'r cylch ailbrisio ar ei ffurf bresennol.

 

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi ystyried posibiliadau cwtogi’r cylch ailbrisio, a chyn yr haf cynhaliodd ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer cynnal prisiadau’n amlach. Gan fod gwneud newidiadau yn y maes hwn yn broses mor gymhleth, bydd yn bwysig manteisio ar y gwersi y gellir eu dysgu pan fydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad.   

 

Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ystyried ar y cyd ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio y posibilrwydd o ailbrisiadau amlach, gan gynnwys y goblygiadau gweinyddol, deddfwriaethol ac ariannol cysylltiedig, a'r effaith debygol ar bobl sy’n talu ardrethi.

 

Goblygiadau Ariannol

 

Bydd unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r gwaith ymchwiliol hwn yn dod o'r cyllidebau presennol.

 

 

 

Mark Drakeford AC

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol